Offa’s Dyke Path is a 177 mile / 283 km National Trail which links the Severn estuary near Chepstow with the north sea at Prestatyn roughly following both the 8th Century earthwork after which it is named and the England-Wales border.

Ffeithlen y llwybr

Lleoliad: Ffin Cymru/Lloegr.
Hyd: 285 cilometr (177 milltir)
Nifer y diwrnodau sydd eu hangen i’w gwblhau ar gyfartaledd: 12.
Defnyddwyr: 100% ar agor i gerddwyr, 35% i seiclwyr a marchogion ceffylau hefyd.
Pwynt uchaf: Crib Hatterall 700 m (2,300 troedfedd)
Man cychwyn: Y Garreg Derfyn ar Glawdd Offa ar Glogwyn Sedbury.
Man gorffen: Y Garreg Derfyn ar lan môr Prestatyn.
Tirwedd: Yn wledig gyda mynyddoedd, doldir fryniog, dyffrynnoedd afon a chaeau isel.  Mae 31% o fewn Tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, 9% mewn Parc Cenedlaethol.  Gyda’i gilydd 40% yn ardaloedd dynodedig.  Mae dwy ran o dair o’r Llwybr Cenedlaethol hwn yng Nghymru.
Uchafbwyntiau: Clawdd Offa, Heneb hiraf Prydain.  Castell Casgwent, Dyffryn Gwy, Abaty Tyndyrn, Trefynwy, y Mynydd Du, Y Gelli Gandryll (tre’r Llyfrau), Trefyclo (Tref y Clawdd), Llangollen, Dyfrbont Pontcysyllte, Moel Famau a Bryniau Caerog Clwyd.  Hefyd boncathod, moch daear, ieir bach yr haf a llond gwlad o flodau gwyllt.
Cysylltiadau Enwog: Dyddiadur Kilvert, “On the Black Hill” Bruce Chatwin; “The Lone Pine Adventures” Malcolm Saville; “Wild Wales” George Borrow; “A Shropshire Lad” A. E. Housman.
Hoff ran Swyddog y Llwybr: “Bryniau De Sir Amwythig.  Lot o waith dringo, ond golygfeydd gwych, dyffrynnoedd bach hyfryd sydd wedi cael eu hanghofio a hen adeiladau heb eu difetha.  Hefyd rhai o ddarnau’r Clawdd sydd wedi eu cadw orau.”  
Trefi Agosaf: Mae Bryste yn 29 cilometr (18 Milltir), Casgwent 1.6km (1 filltir), mae Trefynwy ar y Llwybr.  Mae Llwydlo 24 km (15 milltir) i ffwrdd, Y Drenewydd 16km (10 milltir), Amwythig 26km (16 milltir), Henffordd 26km (16 milltir), mae Llangollen a Phrestatyn ar y Llwybr, mae Caer 32km (20 milltir) i ffwrdd.  Trefi eraill sydd ar neu ger y Llwybr yw’r Gelli Gandryll, Ceintun, Trefyclo, Llanandras, Trefaldwyn, y Trallwng, Croesoswallt a’r Waun.  
Mynediad: Mae yna orsafoedd trên yng Nghasgwent (1.6km (1 filltir) o’r Llwybr), Y Fenni (8km (5 milltir), Trefyclo (ar y Llwybr), y Trallwng (2km (1.5 milltir), Y Waun (2 km (1.5 milltir) a Phrestatyn (ar y Llwybr).
Gwybodaeth: National Trail Guides gan Ernie a Kathy Kay – Aurum Press.  Dwy gyfrol: Offa’s Dyke Path South ISBN 1 85410 671 6, Offa’s Dyke Path North ISBN 1 85410 322 9.  Trafnidiaeth gyhoeddus a “Where to Stay” gan Gymdeithas Clawdd Offa, cyhoeddir yn flynyddol.  Pecynnau taith gylchynnol, siart milltiroedd, mapiau stribed ayb. ar y rhestr gyhoeddiadau sydd ar gael gan y Gymdeithas.  Gwybodaeth gyffredinol a chyhoeddiadau ar gael gan Gymdeithas Clawdd Offa, Canolfan Clawdd Offa/Offa’s Dyke Centre, West Street, Knighton, Powys, LD7 1EN Ffôn (01 547) 528 753 Ffacs (01 547) 529 242 Ebost:
oda@offasdyke.demon.co.uk
Cyswllt i gael pob gwybodaeth a chyngor:
Canolfan Clawdd Offa/Offa’s Dyke Centre
West Street, Trefyclo, Powys, LD7 1EN.
Ffôn: (01 547) 528 192. 
Ffacs: (01 547) 529 242. 
Ebost: odp@offasdyke.demon.co.uk