Agorwyd Llwybr Clawdd Offa yn haf 1971, yn cysylltu Clogwyni Sedbury ger Casgwent ar lannau’r afon Hafren gyda thref arfordirol Prestatyn ar lan y môr Iwerydd.
Fe’i enwyd ar ôl, ac mae’n aml yn dilyn, y Clawdd hynod a orchmynnodd y Brenin Offa ei adeiladu yn yr 8fed ganrif, mae’n debyg er mwyn gwahanu ei Deyrnas Mersia rhag teyrnasoedd croes yng Nghymru fel y mae erbyn hyn.
Mae ei 177 milltir / 285 cilometr yn mynd drwy ddim llai nag wyth o siroedd gwahanol ac mae’n croesi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr dros 20 o weithiau. Mae’r Llwybr yn archwilio’r Gororau (sef yr enw am ardal y ffin) tawel ac yn pasio drwy Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar Grib drawiadol Hatterall. Yn ychwanegol mae’n cysylltu tair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol – Dyffryn Gwy, Bryniau Sir Amwythig a Bryniau Clwyd.
Er bod sôn i rai pobl (wirion!) gwblhau’r Llwybr mewn pedwar diwrnod, mae’n fwy arferol i gymryd tua pythefnos i wneud y daith gyfan. Wrth gwrs, mae llawer o bobl yn dewis cwblhau rhannau bach mewn teithiau diwrnod neu wneud y Llwybr cyfan dros nifer o wythnosau, misoedd neu flynyddoedd! Mae yna ddigon o lefydd i aros, bwyta ac yfed yng nghyffiniau’r Llwybr ac mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael mewn mannau allweddol. Am fanylion gweler yr adran Cynllunio Taith ar y wefan hon.
Pa ffordd bynnag y dewiswch ymweld â’r Llwybr rydym yn hyderus y byddwch yn mwynhau’ch ymweliad â rhan gwirioneddol drawiadol a diddorol o Brydain.