Gellir archebu’r cyhoeddiadau yma i gyd gan Gymdeithas Clawdd Offa – Offa’s Dyke Association. Am fanylion cliciwch ar y ddolen ar y dde i’r dudalen hon.
Mae’r eitemau a restir o dan ‘Teithlyfrau Swyddogol y Llwybr Cenedlaethol’ a ‘Teithlyfrau Eraill i Lwybr Clawdd Offa’ hefyd ar gael drwy siopau llyfrau.
Teithlyfrau Swyddogol y Llwybr Cenedlaethol
Mae’r ddau deithlyfr swyddogol yn cynnwys mapiau stribed yr Arolwg Ordnans ar raddfa 1:25 000 ynghyd â disgrifiadau o’r daith a llwyth o wybodaeth am yr ardal a’i hanes. £12.99 yr un.
- National Trail Guide. Offa's Dyke Path - Sedbury to Knighton (diwygiwyd 2004), gan Ernie a Kathy Kay a Mark Richards. (Copïau wedi eu llofnodi ar gael gan y Gymdeithas)
- National Trail Guide. Offa's Dyke Path - Knighton to Prestatyn (diwygiwyd 2004), gan Ernie a Kathy Kay a Mark Richards. (Copïau wedi eu llofnodi ar gael gan y Gymdeithas)
Cyhoeddiadau Cymdeithas Clawdd Offa
- Strip maps for Offa's Dyke Path, gan Ian Dormor (1998). 10 dalen ddwyochrog, 2 atgynhyrchiad lliw o O.S. 1:25000. Gydag allwedd a bag polythen fel y gallwch ei ddefnyddio yn y glaw.
- Route description, North to South (2000). I’w ddefnyddio gyda’r mapiau stribed OS.
- Route description, South to North (2000). I’w ddefnyddio gyda’r mapiau stribed OS.
- Where To Stay 2005 – llety cyfleus i Lwybr Clawdd Offa a Ffordd Glyndwr.
- Camping and backpackers rhestr ar gyfer Llwybr Clawdd Offa a Ffordd Glyndwr.
Teithlyfrau Eraill i Lwybr Clawdd Offa
- Walking Offa's Dyke Path, gan David Hunter (Cicerone, 1994, diwygiwyd 2001)
- Langton's Guide to Offa's Dyke Path, gan Andrew Durham (1996)
- Offa's Dyke Circular Walks, gan Ian Coulthard. 25 o deithiau cylchynnol yn y darn gogleddol.
- Offa's Dyke Path, gan Jeff Lomax. Cyfrol 1. Prestatyn i’r Trallwng, yn cynnwys 18 taith gylchynnol.
- Offa's Dyke Path, gan Jeff Lomax. Cyfrol 2. Y Trallwng i’r Gelli Gandryll, yn cynnwys 17 taith gylchynnol.
- A Stroll along Offa's Dyke, gan Tony Hobbs. Clawr wedi ei lamineiddio, rhwymiad troellog, 59pp. Hobbs Publishing.
- A Trailblazer guide. Offa's Dyke Path, Prestatyn to Chepstow, gan Keith Carter. 88 o fapiau cerdded graddfa fawr. Cyfres British Walking Guide.
- Special Offa, gan Bob Bibby. Golwg ysgafn ar daith ar hyd Clawdd Offa. Cydymaith ardderchog i’r rheiny sy’n bwriadu cerdded y Llwybr Cenedlaethol, p’un ai ar droed neu o gysur eu cadair freichiau.