Mae’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru yn mynd trwy dirweddau hynod ac amrywiol ac yn cynnig rhai o’r profiadau cerdded gorau yn y wlad.



Cysylltwch

Llwybrau Cenedlaethol Cymru – Eich Barn Chi!

Mae’r Llwybrau Cenedlaethol yng Nghymru yn mynd trwy dirweddau hynod ac amrywiol ac yn cynnig rhai o’r profiadau cerdded gorau yn y wlad.

Mae gan lawer o bobl ran mewn rheoli’r Llwybrau, pob un yn cael ei gydlynu gan Swyddog Llwybr Cenedlaethol arbennig sy’n gyfrifol am edrych ar ôl anghenion ymwelwyr.

Ein nod yw cynnal y Llwybrau i’r safon uchaf posibl a darparu:

  • Llwybr sy’n hawdd ei ddefnyddio, wedi ei arwyddo’n dda ac yn dangos y ffordd yn glir – er ein bod yn argymell eich bod yn cario teithlyfr neu fap gyda chi hefyd
  • Llwybr clir, sy’n hygyrch i gynifer o bobl ag y bo modd
  • Mapiau a chanllawiau cywir yn dangos y daith, sut i gyrraedd yno, ble i fynd ac uchafbwyntiau’r Llwybr.  

Rydym yn croesawu adborth i’n helpu i reoli’r Llwybrau Cenedlaethol i’r safonau uchaf posibl.  Os oes gennych unrhyw sylwadau cysylltwch â’r isod neu’r Swyddog Llwybr perthnasol:

 

Rob Dingle

Swyddog Llwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa

odpnt@powys.gov.uk

Polisi preifatrwydd