-
Pwy sy’n edrych ar ôl y llwybr?
Mae popeth yn gymhleth braidd!
Yn y bôn, y Swyddog Llwybrau Cenedlaethol sydd wedi’i leoli yn Nhrefyclo, sy’n gyfrifol am ofalu am y llwybr o ddydd i ddydd. Mae e’n gwneud hyn ar y cyd â’r wyth awdurdod lleol ac un Awdurdod Parc Cenedlaethol ar hyd y llwybr.
Cyfrifoldeb Cyngor Cefn Gwlad Cymru a’r Natural England yw trefnu’r polisi a’r marchnata yn gyffredinol, a chryn dipyn o’r cyllid ar gyfer y llwybr hwn a Llwybrau Cenedlaethol eraill.
Ar ben hynny mae a wnelo sawl sefydliad arall â’r Llwybr – yn cynnwys y rhai hynny sy’n ymwneud â’r olion hanesyddol – Cadw ac English Heritage.
-
Beth yw Cymdeithas Clawdd Offa?
Sefydliad gwirfoddol annibynnol yw CCO sy’n darparu gwybodaeth a gwasanaethau eraill i bobl sy’n mwynhau cerdded a mynd ar grwydr. Maent yn ceisio hybu a gwarchod Clawdd Offa sy’n 1200 oed a Llwybr Cenedlaethol Llwybr Clawdd Offa. Maent yn gofalu am Ganolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo ac yn cefnogi gwaith ymchwil archeolegol a hanesyddol mewn perthynas â Chlawdd Offa a’r coridor ar hyd y llwybr o Glwyd i Went.
Mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru yn cefnogi Cymdeithas Clawdd Offa a'i hamcanion yn llwyr.
-
O’r De i’r Gogledd neu o’r Gogledd i’r De?
Yn ôl arolwg a gynhaliwyd ym 1999 roedd 71% o’r bobl a oedd yn treulio mwy nag un diwrnod ar y llwybr yn cerdded o’r de i’r gogledd; roedd 25% yn cerdded o’r gogledd-de a 4% yn mynd ar deithiau cerdded ôl a blaen. Yn ôl pob tebyg roedd y mwyafrif ohonynt yn anelu am y gogledd am fod y rhan fwyaf o’r arweinlyfrau, yn cynnwys yr un swyddogol, yn disgrifio’r daith honno. Ond er mwyn cadarnhau, byddai’n rhaid inni wneud rhagor o ymchwil!
-
A yw’r daith yn anodd?
Ydyw a nac ydyw!
O gofio pa mor hir yw’r Llwybr fyddech chi ddim yn synnu clywed ei fod yn mynd trwy sawl tirwedd wahanol. Mae’n bur debyg mai’r rhan galetaf yw’r rhan igam-ogam ym Mryniau Sir Amwythig rhwng Trefyclo a chroesffordd Brompton, a’r ucheldiroedd ym Mannau Brycheiniog a Bryniau Clwyd - yn enwedig felly mewn tywydd garw neu pan mae hi’n anodd gweld.
Yr ardal fwyaf gwastad yw’r rhan rhwng Tal-y-bont a Llanymynech sydd, i raddau helaeth, yn dilyn Afon Hafren a Chamlas Sir Drefaldwyn. Mewn mannau eraill, bryniau a phantiau sy’n eich disgwyl yn bennaf!
Ers tro byd bu’r Llwybr yn ddihareb am nifer y camfeydd sydd ar ei hyd – er y cafwyd gwared â rhai ohonynt yn y blynyddoedd diweddar, a’r bwriad yw cael llai fyth ohonynt er mwyn i’r Llwybr fod o fewn cyrraedd cymaint o bobl ag y bo modd.