Newidiadau i'r Ffordd - Arwainlyfr Swyddogoli

Llwybrau Cenedlaethol - Llwybr Glyndŵr
Bwletin y Swyddog Llwybrau i Ddefnyddwyr Swyddogol yr Arweinlyfr – Awst 2008

Croeso i hynt newydd Llwybr Glyndŵr a ail-lansiwyd fel Llwybr Cenedlaethol ar 19 Ebrill, 2002. A fyddech cystal â sylwi ar y mân newidiadau canlynol i’r llwybr a ddisgrifiwyd yn yr arweinlyfr swyddogol.

Adran 4  -  Llanbadarn Fynydd i Abaty Cwm-hir
Newid parhaol i’r llwybr.
Nid yw’r llwybr sydd i’w weld yng Nghyfeirlyfr Llwybr Cenedlaethol yr Aurum Press ac ar y mapiau OS, i’r gogledd o Ddyfaenor bellach yn ddilys, ac nid oes hawl tramwy. I osgoi tresmasu, defnyddiwch y llwybr troed cyfreithlon a nodir isod ac sydd ar y map sydd ynghlwm. Mae’r llwybr hwn yn wyriad swyddogol a pharhaol i Lwybr Glyndŵr.
• O gyfeirnod grid SO 071 712 - ewch dros y gamfa a pharhau fel y nodir gan yr arwyddbyst dros y cae at gamfa arall.
• Ewch dros y gamfa a pharhau ar hyd y llwybr clir i gyrraedd llethr siâl sydd â chanllaw ar gyfeirnod grid SO 067 712.
• Ar waelod y llethr siâl, mae’r llwybr yn parhau fel y nodir yn y cyfeirlyfr ac ar fapiau’r OS. Nid oes gwahaniaeth mawr rhwng hyd yr hen lwybr a’r llwybr newydd.

Adran 5  - Abaty Cwm-hir i Flaentrinant

Gwyro dros dro o Water Lane i Lower Esgair. Y rheswm dros y gwyriad yma yw’r ffaith nad oes yna hawl gyfreithiol i deithio ar draws fuarth y fferm Cwmsgawen.
• O ben Water Lane – cyfeirnod grid SO 044 719 – trowch i’r gogledd ar hyd y ffordd fach am 0.75 km (0.5 milltir) nes cyrraedd cyfeirnod grid SO 042 726.
• Yn y fan yma, trowch i’r chwith (gorllewin) a dringo'r lôn tuag at Lower Esgair a pharhau nes ailymuno â Llwybr Glyndŵr yng nghyfeirnod grid SO 041725.

Adran 7 - Llanidloes i Afon Biga
Gwyriad dros dro yn Fferm Bryntail. Agorwyd llwybr ceffyl caniataol sy’n caniatáu i gerddwyr a marchogwyr osgoi buarth y fferm. Mae arwyddion sy’n cynnwys saethau gwynion yn dangos y ffordd.
O’r mynegbost i gyfeirnod grid SN 921 872.
• Gadewch yr wtra gan ddilyn y mynegbost ac ewch trwy’r gât i’r cae 50 metr i’r dwyrain yng nghyfeirnod grid SN 920 872 ac i mewn i’r ddôl.
• Ewch ymlaen gan ddilyn yr arwyddion trwy gât ceffyl ar ben y ddôl, ac yna am 50 metr a thrwy ail lwybr ceffyl nes cyrraedd llwybr. 
• Croeswch y llwybr gan fynd trwy gât cae. Ewch yn eich blaen ar letraws i lawr trwy’r coed nes cyrraedd cyfeirbwynt.
Ewch ymlaen gan ddilyn y cyfeirbwynt trwy gât cae yng nghyfeirnod grid SN 918 870. Rydych bellach ar y llwybr sy’n arwain i lawr at Gloddfa Bryntail

<?xml:namespace prefix = o ns = "urn:schemas-microsoft-com:office:office" /><o:p></o:p>

Adran 9 – Aberhosan i Fachynlleth
Newid parhaol i daith gerdded.
Nid yw’r daith sy’n ymddangos yn llawlyfr yr Aurum Press National Trail Guidebook ac ar fapiau ordnans yn Cleriau Isaf yn ddilys bellach ac nid yw’n hawl dramwy.  Er mwyn osgoi tresbasu, defnyddiwch y llwybr ceffyl cyfreithiol yn ôl y manylion isod.  Mae’r daith yn ddargyfeiriad swyddogol o Ffordd Glyndŵr.        
• O gyfeirnod grid SN 795 967 yn y llidiart sy’n arwain i iard Cleriau Isaf– cerddwch ymlaen rhwng y tŷ a’r stablau.   
• Dilynwch y llwybr cerrig am 20 medr ac yna cymerwch y tro llethrog i’r dde sy’n arwain at y weirglodd yng nghyfeirnod grid SN 794 967.
• Ewch drwy lidiart y cae gan barhau ar hyd ochr y ffens ar y dde.
Ewch drwy lidiart cae arall yng nghyfeirnod grid SN 793 968 lle mae’r daith yn parhau fel y disgrifir yn y llawlyfr ac fel y mae’n cael ei dynodi ar y mapiau ordnans. 

Adran 11  -  Glantwymyn i Lanbryn-mair
Mae croesfan y rheilffordd yn Llanbryn-mair wedi’i chau’n barhaol am resymau diogelwch.
• Yng nghyfeirnod grid SH 896 032 trowch i’r chwith (dwyrain) ar hyd y ffordd fynediad newydd. 
• Yng nghyfeirnod grid SH 901 032 mae’r ffordd fynediad yn ymuno â ffordd fach. Trowch i’r dde i gerdded i bentref Llanbryn-mair (300 metr/0.2 milltir) neu trowch i’r chwith i barhau ar hyd Llwybr Glyndŵr.


Adran 16  -  Meifod i’r Trallwng
Newid parhaol i’r llwybr.
Nid yw hynt y llwybr sy’n cael ei nodi yn Arweinlyfr Llwybr Cenedlaethol Gwasg Arum, rhwng Coedwig y Graig a’r Golfa, yn ddilys erbyn hyn, ac nid oes hawl tramwy ar hyd-ddo. Er mwyn osgoi tresmasu, defnyddiwch y llwybrau cyfreithiol isod. Mae’r llwybr yma yn wyriad swyddogol i Lwybr Glyndŵr.
• O Goedwig y Graig – cyfeirnod grid SJ176 084 – trowch i’r dde a cherdded ar hyd y ffordd fach am 200 metr (0.1 milltir).
• Yng nghyfeirnod grid SJ174 083 trowch i’r chwith trwy gât i’r cae a pharhau ar hyd y llwybr troed ag arwyddion ar ei gyfer, gan ddringo’r caeau nes cyrraedd ffordd fach yng nghyfeirnod grid SJ177 077
• Croeswch y ffordd a cherdded tua’r dde ar draws y ddôl nes cyrraedd ymyl y goedwig.
• Dilynwch y llwybr trwy’r goedwig, gan droi tua’r chwith nes cyrraedd ffin y Golfa, ac yna ailymuno â Llwybr Glyndŵr yng nghyfeirnod grid SJ175 075.

Helen Tatchell
Swyddog Llwybr Cenedlaethol Llwybr Glyndŵr
Cyngor Sir Powys, Swyddfeydd Sant Ioan, Pumffordd, Llandrindod, Powys LD1 5ES
01597 827562      helen.tatchell@powys.gov.uk