Llwybrau Cenedlaethol Cymru – Beth yw’ch barn?
Mae Llwybrau Cenedlaethol Cymru’n mynd trwy dirwedd diguro ac amrywiol gan gynnig rhai o’r profiadau cerdded gorau yn y wlad.
Mae llawer iawn o bobl yn ymwneud â rheoli’r Llwybrau, pob un yn cael ei gydlynu gan Swyddogion Llwybrau Cenedlaethol arbennig sy’n gyfrifol am ofalu am anghenion ymwelwyr.
Ein nod yw cynnal y Llwybrau i’r safonau uchaf posibl ac i ddarparu:
- Llwybr sy’n hawdd ei ddefnyddio, wedi’i nodi a’i arwyddo’n dda – er ein bod yn argymell y dylech bob amser gario arweinlyfr neu fap:
- Llwybr clir, sy’n hygyrch i gymaint o bobl ag y bo modd
- Mapiau ac arweinlyfrau cywir sy’n dangos y llwybr, sut mae’i gyrraedd; lle i fynd ac uchafbwyntiau’r Llwybr.
Rydym yn croesawu adborth i’n helpu i reoli’r Llwybr Cenedlaethol i’r safonau uchaf posibl. Os oes gennych unrhyw sylwadau, dylech ddefnyddio’r ffurflen isod neu gysylltu â’r Swyddog Llwybr perthnasol:
Helen Tatchell
Swyddog y Llwybr Cenedlaethol
Cyngor Sir Powys
St John’s Offices
Fiveways
Llandrindod
Powys
LD1 5ES
Ffôn: 01597 827562
ebost: gwnt@powys.gov.uk
Ffon: 01597 827562