COF

  • Pryd y mae’r amser gorau i gerdded Llwybr Glyndŵr?

    Gellir mwynhau Llwybr Glyndŵr ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.

    Mae’r haf yn dod â diwrnodau hir sy’n boeth (weithiau), ond mae’n well gan rai pobl flodau gwyllt y gwanwyn neu liwiau ysblennydd yr hydref. Yn y gaeaf, golygfa fendigedig yw canolbarth Cymru dan drwch o eira. Sut bynnag, mae’n rhaid bob amser gadw mewn cof dywydd Cymru lle y gall fwrw glaw ar unrhyw adeg, ynghyd â’r ffaith bod peth o’r llety ynghau yn y gaeaf. Felly. mae’n bwysig cario dillad addas. Cofiwch hefyd fod golau dydd yn gyfyngedig yn y gaeaf (tuag wyth awr yn unig yng nghanol y gaeaf).

    Mae un peth yn sicr– pryd bynnag y byddwch yn cerdded, bydd hi’n siwr o fod yn brofiad bythgofiadwy.

  • Pam bod mes a dreigiau ar yr arwyddbyst?
    Y fesen yw symbol y 15 Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynrychioli pwysigrwydd cenedlaethol y llwybrau ac ymroddiad pawb sy’n ymwneud â’u rheoli i ofalu am y Llwybrau hyd at y safonau uchaf posibl. Logo penodol yw’r ddraig ar gyfer Llwybr Glyndŵr a ddatblygwyd gan Gyngor Sir Powys.
  • A oes llety ar hyd y llwybr?

    Oes – ond mae’n brin mewn mannau ac felly mae’n bwysig cynllunio ymlaen. Nid yw’n ddoeth glanio’n ddirybudd mewn llety heb gadw lle. Mewn rhai achosion, efallai y bydd yn rhaid trefnu pas neu dacsi i’ch llety – bydd rhai perchenogion Gwely a Brecwast yn fodlon i ddarparu’r gwasanaeth yma.

    Ar hyn o bryd, ychydig iawn o gyfleoedd i wersylla sydd ar hyd y llwybr na’r un hostel ieuenctid.
    Mae rhestr lety ar gyfer Llwybr Glyndŵr yn cael ei chynnwys yng nghyhoeddiad Cyngor Sir Powys ‘Walking in Mid-Wales and The Becon Beacons’. Mae hwn ar gael o ganolfannau croeso yn yr ardal, gan gynnwys Canolfan Clawdd Offa yn Nhrefyclo - Ffôn 01547 528753.

  • Pa mor hawdd yw cyrraedd a mynd oddi ar y Llwybr?

    Ar gyfer gwybodaeth am gludiant yn genedlaethol, gan gynnwys amserlenni, cysylltwch â: www.traveline.org.uk neu ffoniwch 0870 608 2 608.

    Trenau

    Ceir gorsafoedd rheilffordd wrth ddeupen y Llwybr. Mae gorsaf Trefyclo ar reilffordd Calon Cymru sy’n cysylltu Amwythig ag Abertawe.Mae Machynlleth a’r Trallwng ill dau ar Lein y Cambrian sy’n rhedeg o Amwythig i Aberystwyth a Phwllheli. Ymholiadau National Rail: www.nationalrail.co.uk neu ffoniwch 08457 484950

    Bysiau

    Mae gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg o’r trefi pwysig - Trefyclo, Llanidloes, Machynlleth a’r Trallwng. Mewn mannau eraill, cyfyngedig iawn yw’r gwasanaethau. Mae amserlenni cyflawn a map ar gael yn yr Arweiniad i Deithio ym Mhowys sydd ar gael o Ganolfannau Croeso yn y sir neu drwy godi’r ffôn ar 0845 6076060.

  • A fydd hi’n wirioneddol brysur
    Dim eto! Gweddol newydd yw Llwybr Glyndŵr o hyd, a heblaw yng nghyffiniau’r trefi, byddwch yn debygol o fedru teithio am filltiroedd heb weld pobl eraill, heblaw am ambell ffermwr. Fodd bynnag, wrth i’r Llwybr ddod yn fwy hysbys rydym yn disgwyl i niferoedd yr ymwelwyr gynyddu.